Gwasanaethau Dysgu SNAP Cymru: Fforymau Rhieni a Gofalwyr

Mae SNAP Cymru yn cynnal cyfres o fforymau rhieni a gofalwyr am ddim i deuluoedd plant ag ADY/plant anabl 0-25 oed ledled Cymru, ac sydd yn parhau tan fis Ebrill 2023. Mae’r sesiynau’n cynnig cyfle i rieni a gofalwyr wneud y canlynol:
  • cael mwy o wybodaeth am weithredu’r system ADY yng Nghymru
  • rhannu eu barn a’u profiadau
  • cael mynediad at gymorth a chyngor gan dîm SNAP Cymru
Bydd adborth o’r sesiynau yn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu adnoddau a chefnogaeth i deuluoedd yn y dyfodol. Bydd y fforymau yn cael eu cynnal ar-lein ac wyneb yn wyneb, mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru. Am rhagor o wybodaeth ar y digwyddiadau dilynwch y linc hyn – O AAA i ADY: Fforymau Rhieni a Gofalwyr Gallwch anfon e-bost at SNAP Cymru gydag unrhyw gwestiynau am y digwyddiad: fromsentoaln@snapcymru.org