HYSBYSIADAU

‘CYD DYFU, CYD DDYSGU’

‘Mae YGA yn ymrwymedig i ddarparu addysg gynhwysol o safon uchel i bob un o’m plant mewn awyrgylch sy’n eu galluogi i lwyddo.’

CROESO I YSGOL GYNRADD ABERTEIFI

Sefydlwyd Ysgol Gynradd Gymunedol Aberteifi yn sgil uno Ysgol y Plant Bach Aberteifi ac Ysgol Iau Aberteifi. Agorwyd yr ysgol ar ei newydd wedd ym Medi 2008. Lleolir yr ysgol yn nhref farchnad hanesyddol Aberteifi wrth aber yr afon Teifi. Dyma gartref yr Eisteddfod gyntaf a man cychwyn llwybrau arfodir Sir Benfro a Sir Geredigion.  Daw’r mwyafrif o ddisgyblion sy’n mynychu’r ysgol o’r dref ei hun ond, erbyn hyn, mae nifer o ddisgyblion yn teithio o bellach i ffwrdd.

Mae pob plentyn yn bwysig yn Ysgol Gynradd Aberteifi.  Mae YGA yn ymrwymedig i ddarparu addysg   gynhwysol o safon uchel i bob un o’m plant mewn awyrgylch sy’n eu galluogi i lwyddo. Mae creu amgylchedd hapus a gofalgar lle gall eich plentyn deimlo’n ddiogel yn holl bwysig. Mae’r addysg a ddarparwn yn cyd-fynd yn ofalus ag anghenion dysgu unigol pob un disgybl, ac mae llais y disgybl yn allweddol er mwyn datblygu agweddau o fewn yr ysgol. Ein nod yw darparu amgylchedd ysgogol lle mae disgyblion yn cael eu hannog i gyflawni eu llawn botensial a datblygu i fod yn ddinasyddion cyfrifol ac yn ddysgwyr gydol oes.

Addysgir dros 430 o blant yn ein hysgol, mewn awyrgylch cyfeillgar a gofalgar. Mae staff yr ysgol yn gydwybodol ac yn sicrhau bod ein disgyblion yn cyrraedd y safonau uchaf posib. Rydym yn falch iawn o’n hysgol ac yn anelu tuag at welliant parhaus, er lles yr holl ddisgyblion. Mae dosbarthiadau wedi eu rhannu i grwpiau blwyddyn ac mae dosbarthiadau gallu cymysg cyfochrog trwy’r ysgol. Mae maint dosbarthiadau yn amrywio o rhwng 20 a 30. Derbynnir y plant i addysg ran-amser yn yr ysgol y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd, ac yna yn llawn amser y tymor sydd yn dilyn eu pedwerydd pen-blwydd.

Mae’r ysgol wedi ei phenodi yn Ysgol Gynradd Gymraeg yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru â’r gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Ein nod yn YGA yw i ddarparu  profiadau eang i alluogi’r plant i gyfrannu yn hyderus mewn cymuned ddwyieithog, i fod yn  ddinasyddion i  Gymru a’r byd, gan feithrin diddordeb tuag at eu diwylliant, treftadaeth, amgylchedd a’r iaith Gymraeg,

Rydym yn ysgol gynhwysol sydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyfoethog. Rydym yn darparu profiadau eang i bob unigolyn. Rydym yn ymfalchïo yn ein darpariaeth wedi oriau ysgol. Rydym hefyd yn darparu nifer o weithgareddau cyfoethog wedi oriau ysgol fel Clwb Celf;, clwb rhedeg; garddio; codio; coginio, pêl-rwyd, rygbi, Urdd ac ati. Bydd ein disgyblion hefyd yn cystadlu mewn nifer fawr o gystadlaethau chwaraeon megis pêl-droed, pêl-rwyd, rygbi, athletau, rhedeg trawsgwlad, nofio yn ogystal ag Eisteddfodau’r Urdd.

Mae’r wefan yma yn rhoi blas i chi o’n ysgol, yn ogystal â darparu gwybodaeth cyfoes i rieni, disgyblion a’r gymuned ehangach. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau pori ein gwefan, a’ch bod yn dod o hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdano. Mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych

Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth, ac er mwyn cael blas o fwrlwm ein hysgol brysur.

Diolch

Donna Hanly

(Pennaeth YGA)

DYDDIADUR

DIOGELWCH AR Y RHYNGRWYD

ADRODDIAD ESTYN

CYSYLLTWCH Â NI

PROSBECTWS

LLYTHYRON